Vissertruien door de jaren heen. De visserstrui van werkgoed tot mode
Arddangosfa hynod ddiddorol yn archwilio patrymau a ddefnyddir ar gyfer siwmperi a wisgir gan bysgotwyr yng nghymunedau pysgota Friesland.
Ar daith o Amgueddfa Moddergat, mae'r arddangosfa yn canolbwyntio ar yr ystod o batrymau a ddefnyddir mewn gwahanol gymunedau yn y dalaith sydd wedi'i lleoli yng ngogledd yr Iseldiroedd.
Mae gan gymunedau arfordirol Ffrisia nodweddion tebyg i rai Pen Llŷn ac mae’r arddangosfa’n siŵr o sbarduno diddordeb mewn siwmperi a wisgwyd yn lleol.
Gorffennaf 8ed: Diwrnod Trafodaeth gyda Jacob Bosma o Moddergat.
Amserlen: 11yb: Cyflwyniad gan Jacob Bosma; 11.30yb: Sisiwn holi; 12.30yp: Cinio bys a bawd
Archebwch sedd trwy ebostio post@oriel.org.uk
Noddir y diwrnod gan brosiect Live Ecoamgueddfa Llŷn