Sgwrs am ei waith celf gan yr artist adnabyddus Bedwyr Williams

Ymunwch â Bedwyr Williams wrth iddo drafod ei waith, gan gynnwys ‘Tyrrau Mawr’ ac ‘Artist Hŷn’ sydd i’w gweld ym Mhlas Glyn-y-Weddw tan 22ain o Fedi 2024.

Mae Bedwyr Williams yn defnyddio amlgyfrwng, perfformiad a thestun i archwilio'r ffrithiant rhwng yr agweddau marwol difrifol a banal bywyd. Mae'n aml yn tynnu ar ei fodolaeth hunangofiannol ei hun gan gyfuno celf a bywyd â thro digrif - ac yn aml dychanol -, mae ei waith yn gydymdeimladol a pherthnasol ar unwaith.

Mae ei waith ‘Tyrrau Mawr’ i’w weld ym Mhlas Glyn-y-Weddw ynghyd ag arddangosfa ‘Artist Hynaf’ hys at 22 Medi 2024. Mae’r gosodiad delwedd symudol yn cymryd y traddodiad o beintio tirluniau Cymreig fel man cychwyn. Wedi’i greu gan ddefnyddio techneg effeithiau gweledol ‘paentio matte’, mae tir mynyddig Gogledd Cymru yn ymddangos mewn ansawdd digidol hynod o finiog ac yn dod yn lleoliad ar gyfer dinas fega ddyfodolaidd. Wrth i’r ddinaswedd newid o nos i ddydd, mae troslais, wedi’i ysgrifennu a’i adrodd gan yr artist, yn adrodd hanes trigolion y byd newydd dewr hwn.

Cofrestru

Sgwrs gan Bedwyr Williams