Bedwyr Williams - Tyrrau Mawr & Artist Hŷn

Agorir gan Brif Weithredwr Amgueddfa Cymru, Jane Richardson ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 20ed, 2024 am 4.30yh.

Mae’n bleser cael cyflwyno gwaith yr artist rhyngwladol enwog Bedwyr Williams.

Mae ei ffilm, Tyrrau Mawr ar fenthyg o’r Casgliad Cenedlaethol yn Amgueddfa Cymru fel rhan o gynllun newydd oriel gelf genedlaethol Cymru. Nôd y cynllun ydi rhannu gwaith o’r Casgliad Cenedlaethol ar draws Cymru trwy eu cyflwyno mewn orielau sy’n bartneriaid. Mae casgliad o baentiadau a darluniau o’i waith diweddar, ‘Artist Hŷn’ hefyd yn cael eu harddangos, mew cydweithrediad ag Oriel Phillida Reid, Llundain. https://www.phillidareid.com/

delwedd: Tyrrau Mawr (manylun)

Darllenwch y datganiad

Bedwyr Williams - Datganiad i'r Wasg

Logo NCAGW 2