Clymu profiad, clymu atgofion a chlymu traddodiad drwy edafedd a gwlân
Mae Plas Glyn-y-Weddw yn falch o’r cyfle i gyflwyno detholiad o waith Cefyn Burgess sy’n cynrhychioli sawl ystod o’i yrfa.
Yn cario’r teitl ‘Cwlwm Gwlân’, mae’r arddangosfa yn dwyn o gôf, gan gyfuno hanes, diwylliant a threftadaeth trwy gyfrwng gwlân ac edafedd mewn ffurf carthenni, cwiltiau, gwaith pwyth a lluniadau.
Mae’r ysbrydoliaeth dderbyniodd Cefyn o atgofion bore oes yn sgîl ei fagwraeth mewn cymdeithas oedd â’r capel yn ganolbwynt iddi yn arwyddocaol. Gwnaeth y profiad gwerthfawr yma o ddyddiau ei febyd ym Methesda gryn argraff arno, ac o ganlyniad mae diwylliant a thraddodiadau sydd yn cylchdroi o gwmpas y cartref a’r capel yn linyn cyswllt trwy’r gwaith.
Arweiniodd y profiad o weld capeli ym mro ei febyd a thu hwnt yn cau, at i’w ddiddordeb yn y capeli ddwysau . Bu yn symbyliad iddo deithio i bellafoedd byd i brofi’r modd yr aeth y Cymry a ymfudodd o’u mamwlad dros ganrif yn ôl, a’u diwylliant a’u traddodiadau efo nhw i’r Amerig, yn enwedig Patagonia.
Mae gwaddol y diwylliant, y traddodiadau a’r dreftadaeth yma, boed gartref yng Nghymru neu dramor, yn themau cyson yn y gwaith yn yr un modd ag y mae ymdeimlad o berthyn, hiraeth a galar.
Yn ogystal a mynd a diwylliant a threftadaeth efo nhw dros y cefnfor, fe aeth y Cymry a chreiriau y cartref oedd mor bwysig iddynt, megis carthenni a chwiltiau efo nhw hefyd. Mae’r gist sydd a llun y llong S.S Paris, a hwyliai o Lerpwl i gyfandir America, arni yn symbol o’r mudo yma a’r modd y byddai y carthenni yn cael eu cludo mewn cistiau ar y fordaith.
Mae astudiaethau Cefyn sy’n deillio o’i ymweliadau â’r Amerig, yn enwedig Patagonia yn rhoi sylw penodol i’r capeli a adeiladwyd wedi cyrraedd y tir newydd ac y mae’r gwahaniaeth mewn pensaerniaeth o’u cymharu a chapeli adref yn ein taro yn syth. Ym mha bynnag wlad y saif yr adeiladau, maent yn eiconig yn ogystal a bod yn symbol o genedl.
Yn y casgliad o waith o Batagonia trwy gyfrwng papur inc ac argraff cotwm cawn gip ar y modd y crëwyd ‘Cymru yn y Llwch’ ym Mhatagonia. Mae tair cymdeithas, tri diwylliant, tair iaith a chrefydd yn bodoli ochr yn ochr.
Mae pedwar darn mawr o waith pwyth ac inc o gapeli Patagonia sydd yn torri ar y gorwel hir ac yn tarddu ar yr awyr lydan yn drawiadol iawn ac yn cael eu harddangos gyda’u gilydd yn yr arddangosfa yma am y tro cyntaf.
Ers blynyddoedd bellach mae Cefyn yn casglu llestri capel - y capeli bellach wedi cau a nifer wedi eu dymchwel, ond y llestri wedi goroesi.
Dyma gasgliad sydd yn deffro atgofion, yn codi hiraeth ac yn sbarduno trafodaeth am gymdeithas a’r bobl oedd yn ffurfio’r gymdeithas, eu ffordd o fyw, y traddodiadau a’r capeli oedd yn rhan mor bwysig o fywyd cenedlaethau o Gymry a fagwyd mewn cymunedau ledled Cymru. Dyma ddiwylliant nad ydi’r cenedlaethau nesaf yn mynd i wybod amdano, talp o hanes wedi mynd a’r llestri yn adlais ohono.
Mae’r gwaith pwyth sy’n cael ei arddangos o lestri capel o bob rhan o Gymru yn ddetholiad o brosiect Cefyn i greu catalog ar y wal fel petae o’r llestri te sydd wedi eu stampio gyda enwau y capeli.
Mae’r cwiltiau cyfoes sydd yn rhan o’r arddangosfa wedi eu creu o ddefnyddiau megis gwlanen, gwlân wedi ei nyddu a chadachau poced cotwm yn atsain hanes, a thraddodiad. Cawn ynddynt liwiau a motifau, delweddau a thestun sydd yn mynegi elfennau megis cariad ac aelwyd, y gorffennol a’r presennol, gobaith, galar a diogelwch.
Mae storiau ac arwyddocâd personnol yng nghefndir y tri cwilt sydd yn amseru bywyd ar y aelwyd.
Blanced, neu orchudd, ydi sylfaen cwilt ‘Rhodd Cariad’ a’r geiriau o Ganiadau Solomon ar ffurf llawysgrif wedi ei llythrennu ar wlanen ar wahân. ‘Roedd blodau lili’r maes o’i flaen pan yn llunio y cwilt ‘Serch’ ac o ganlyniad mae’r gwaith yn gwbl organig.
Mae ‘Cwilt Eluned’ yn mynegi galar. Eluned oedd ei fam, a’r blodau sydd wedi eu pwytho wedi eu selio ar flodau oddi ar fedd ei fam yn dilyn ei hangladd ac wedi eu sychu yn y beibl mawr teuluol.
Cliciwch yma i weld gwaith Cefyn Burgess