Coed / Coexist

Y Symposiwm - Dydd Sadwrn 14eg o Fedi 2024 - Noddir gan Ecoamgueddfa Llŷn - https://www.ecoamgueddfa.org/

Mae’r artistiaid Junko Mori a John Egan sydd yn byw ym Mhen Llŷn yn dechrau ar brosiect uchelgeisiol yn dwyn y teitl Coed / Coexist ac yn trefnu symposiwm fel man cychwyn. Hanfod y prosiect yw tynnu ein sylw at goed a choetiroedd, gan chwilio am gysylltiadau ehangach ynghyd a dyheadau a dibyniaeth ar yr ecosystemau hyn, tra’n cysylltu cymuned, creadigrwydd a stiwardiaeth amgylcheddol. Mae’r prosiect yn ei gyfanrwydd yn anelu at ddathlu’r ardal leol a’r cymunedau sydd wedi’u lleoli ym Mhen Llŷn.

Gan weithio gyda Plas Glyn-y-Weddw, sydd wedi ei leoli ar yr arfordir yn Llanbedrog, mae’r artistiaid yn trefnu symposiwm diwrnod o hyd i’w gynnal ddydd Sadwrn 14 Medi 2024.

 

Manylion pellach

Coed / Coexist