Galwad Agored, Deunyddiau ar gyfer Creu - Pren o Goeden Ffawydd ar gael i’w Gasglu
Yn dilyn ein symposiwm Coed Coexist a gynhaliawyd yn ddiweddar, gwahoddir ymarferwyr creadigol sydd â chysylltiadau â Phen Llŷn ac ardal ehangach Gwynedd i gasglu pren o goeden ffawydd a syrthiodd ym Mhlas Glyn-y-Weddw yn gynharach eleni a chymryd rhan yng ngham nesaf y prosiect Coed Coexist. Mae'r goeden hon a'i phren yn ganolog i brosiect Coed Coexist, yn symbolaidd ac yn ffisegol.
Sut i gymeryd rhan
Gwahoddir ymarferwyr creadigol i weithio gyda, ac i ymateb i’r goeden ffawydd arbennig yma yn ogystal a ystyried sut y gallwn gydfyw gyda choed, coetir a fforestydd yn ehangach ac yn ddyfnach, yn enwedig o fewn y gymuned ym Mhen Llŷn.
Opsiynnau ar gyfer gweithio gyda’r pren
- Creu gwaith newydd ar gyfer Arddangosfa Coed Coexist (Mai 2026): Gall ymarferwyr ddatblygu gwaith maent yn ei ariannu eu hunain gan ddefnyddio’r pren hwn ar gyfer arddangosfa Mai - Gorffennaf 2026 ym Mhlas Glyn-y-Weddw (gyda chyfleoedd i werthu gwaith). Bydd manylion am gyflwyno gwaith ar gyfer yr arddangosfa hon yn cael eu rhannu yn agosach at y dyddiad.
- Gwaith a Gomisiynwyd: Rydym hefyd yn gweithio i sicrhau cyllid ar gyfer pedwar comisiwn mawr newydd i’w cyflwyno ochr yn ochr ag arddangosfa Coed/ Coexist Mai - Gorffennaf 2026. Gwahoddir artistiaid sydd â diddordeb mewn cynnig gweithiau / prosiectau ar raddfa fwy i gyflwyno cynnig erbyn yr 28ain o Fawrth 2025. Bydd pob artist a ddewisir yn derbyn cyllid i ddatblygu corff o waith ar gyfer yr arddangosfa. Bydd manylion llawn am y comisiynau hyn, a sut i wneud cais ar gael o ddydd Llun yr 2il o Ragfyr 2024, ar www.oriel.org.uk. Os oes ganddoch gwestiynau neu angen mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at Alex Boyd Jones, Curadur, alex@oriel.org.uk o 2 Rhagfyr. 2024.
Deunyddiau sydd ar gael (cyntaf i’r felin gaiff falu)
-Planciau: 25-75mm o drwch, hyd at 4m o hyd
-Logiau: 300mm o led, hyd at 500mm o hyd
-Brigau canopi
-Chipings coed
-Llwch lli
Manylion Casglu
Bydd yr alwad agored yma yn parhau hyd y bydd yr holl bren wedi ei gasglu. Er mwyn trefnu i gasglu, cysylltwch a John Egan john@makinglittle.co.uk.
Cyfryngau Cymdeithasol a Hyrwyddo’r Prosiect
Pan fyddwch yn casglu, efallai y byddwn yn gofyn i chi dynnu llun, fideo byr, neu nodyn llais os ydych chi'n gyfforddus gyda hynny, er mwyn i chi rannu'r hyn y gallech ei archwilio'n greadigol gyda'r deunydd. Gallwch nodi eich fformat dewisol ar gyfer dogfennu.
Byddem hefyd wrth ein bodd yn derbyn delweddau a fideos o’ch taith greadigol gyda’r coed, er mwyn helpu i hyrwyddo’r prosiect, cefnogi ceisiadau am arian, a’u rhannu â’r cyhoedd yn ystod yr arddangosfa. Anfonwch luniau/fideos gyda disgrifiadau byr at Zoe Lewthwaite; zoe@oriel.org.uk.
Edrychwn ymlaen at weld sut mae'r deunydd unigryw yma yn eich ysbrydoli!
Junko Mori, John Egan a Thîm Plas Glyn-y-Weddw.
Sefydlwyr Coed / Coexist
Coed / Coexist
Mae Coed / Coexist yn brosiect a gychwynwyd gan artistiaid sydd yn byw ym Mhen Llŷn, Junko Mori a John Egan mewn partneriaeth â Phlas Glyn-y-Weddw. Mae hanfod y prosiect yn tynnu ein sylw at goed a choetiroedd, gan chwilio am gysylltiadau ehangach, dyheadau a dibyniaeth ar yr ecosystemau hyn wrth gysylltu cymuned, creadigrwydd a stiwardiaeth amgylcheddol. Mae’r prosiect cyfan yn anelu at ddathlu’r ardal leol a’r cymunedau sydd wedi’u lleoli ym Mhen Llŷn.
Gan ddefnyddio coed sydd wedi cwympo neu eu cwympo yn unig, ac wedi eu darganfod ar y penrhyn, gan gynnwys y Winllan ym Mhlas Glyn-y-Weddw, bydd Coed / Coexist yn arddangos gwaith creadigol newydd ac yn cynnwys ymgysylltu cyhoeddus a chymunedol ym Mhlas Glyn-y-Weddw a’r cyffiniau yn 2026. Bydd yn gwahodd cynigion gan bobl greadigol i wneud gwaith newydd i ysbrydoli a rhoi llwyfan i grefftwaith a dyfeisgarwch pobl greadigol a meddylwyr lleol.
Plas Glyn-y-Weddw
Oriel gelf hynaf Cymru sy’n swatio ym mhentref Llanbedrog ym Mhen Llŷn, mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Adeiladwyd y Plas sydd o gynllun Gothig yn 1857 fel tŷ gweddw i’r Fonesig Elizabeth Jones Parry o Fadryn. Roedd gan deulu Madryn gasgliad sylweddol o gelf a chynlluniwyd y plasty yn bwrpasol i fod yn gartref i'r casgliad. Yn ddiweddarach, manteisiodd yr entrepreneur o Gaerdydd, Solomon Andrews, ar y cyfle i brynu Plas Glyn-y-Weddw yn arwerthiant Ystâd Madryn ym 1896 a’i droi’n oriel gelf oedd ar agor i’r cyhoedd. Mae Plas Glyn-y-Weddw bellach yn llawer mwy nag oriel gelf; mae’n ganolfan gelf a threftadaeth o bwysigrwydd cenedlaethol, sy’n cyfuno celf, natur a diwylliant trwy ystod eang o weithgareddau. Mae’r Plas yn gleient refeniw i Gyngor Celfyddydau Cymru ac wedi’i ddewis yn un o’r 9 safle lloeren ledled Cymru ar gyfer cynllun Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru sy’n torri tir newydd.
Bywgraffiadau yr artistiaid arweiniol
Junko Mori
Ganed yn Yokohama, Japan ym 1974. Datblygodd ei chysyniad craidd, “tyfu ffurfiau trwy ailadrodd” o gwmpas graddio o Goleg Celfyddydau Camberwell, Llundain yn 2000. Symleiddiodd ei hymarfer a datblygodd ffurfiau mwy cerfluniol trwy ddefnyddio technegau gof traddodiadol. Sefydlodd ei gweithdy ym Mhen Llŷn yn 2010, lle mae wedi’i hamgylchynu’n llwyr gan natur ysbrydoledig. Mae ei gweithiau mewn llawer o amgueddfeydd rhyngwladol, gan gynnwys yr Amgueddfa Brydeinig, Amgueddfa Genedlaethol yr Alban ac Amgueddfa Gelf Honolulu.
John Egan
Mae Making Little yn deillio o werthfawrogiad dwfn o'r amgylchedd naturiol, ac mae'r dyluniad yn uniongyrchol gysylltiedig ag ef. Mae'n ceisio gwneud gwrthrychau hardd hirhoedlog a darnau untro, a thrwy hynny gloi carbon ym mhob gwrthrych a wneir. Dim ond deunydd o ffynonellau lleol y mae'n eu defnyddio, sy'n golygu bod ôl troed pob gwrthrych yn fach ac yn gweithio mewn cytgord â'u hamgylchedd. Yr amgylchedd a'i effaith arno yw ei egwyddorion arweiniol a dyma sy’n siapio ei ddyluniadau.