Cofiwch Dryweryn

Beth yw pris dŵr? Darganfyddwch drwy glywed hanes dirdynnol boddi Cwm Tryweryn.

Ysgol fach, llawn bwrlwm, gyda plant bendigedig, oedd Ysgol Celyn ym mhentre’ Capel Celyn. Martha Roberts oedd y Brifathrawes wnaeth gloi drws yr ysgol am y tro olaf ym mis Gorffennaf 1963.

Yng nghwmni Martha fe glywn ni'r stori am y daith o Gwm Celyn i Lerpwl; am y peiriannu mawr wnaeth chwalu waliau’r ysgol, ac am ymdrechion dewr y trigolion lleol. Ond er taw ofer fu’r ymdrech, daw gobaith ar ddiwedd y sioe wrth i Martha annog y plant i ddal yn dynn yn y stori, yn union fel wnaeth hi ddal ei gafael ar oriad Ysgol Celyn.

Sioe un actor, rhyngweithiol i blant a theuluoedd.

Cefnogir gan gynllun Noson Allan, Cyngor Celfyddydau Cymru.

Perfformiad yn Gymraeg am 1.30yp. Digwyddiad am ddim - rhaid archebu lle isod.

Archebwch Le

Cofiwch Dryweryn