Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn ail-lansio Gwobr Goffa Eirian Llwyd mewn cydweithrediad gyda Cyngor Celfyddydau Cymru.
Roedd Eirian Llwyd yn creu printiadau nodedig iawn, Eirian oedd sylfaenydd Y Lle Print Gwreiddiol. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Goffa yn ei henw i gynnig gwobrau ariannol i artistiaid newydd sydd yn gwneud enwau iddynt eu hunain yn y maes gwneud printiadau.
Gyda chymorth yr Ymddiriedolaeth, a chydweithrediad Cyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn cynnig gwobr fawreddog i'r enillyd eleni, sef £5,000 (dwbwl gwerth y wobr flaenorol) i nodi 10 mlynedd o’r wobr.
Caiff curaduron oriel a chanolfanau argraffu yng Nghymru y cyfle i enwebu artist argraffu ymroddgar a thalentog a fyddai’n elwa o’r cyfle.
Eleni am y tro cyntaf, caiff artist argraffu enwebu eu hunain ar gyfer y wobr, yn ddibynnol ar gyflwyno portffolio o’u gwaith a chael geirda gan guradur neu artist proffesiynol arall.
Mi fydd gwaith yr artistiaid fydd yn llwyddo i gyrraedd y rhestr fer yn cael eu arddangos fel rhan o arddangosfa Gwobr Goffa Eirian Llwyd ym Mhlas Glyn-y-Weddw rhwng Chwefror a Mawrth 2025.
Dyddiad cau ar gyfer enwebu yw 5yp 13eg o Dachwedd 2024
Anfonwch eich enwebiad i post@oriel.org.uk
Canllawiau Medi 2024 - Gwobr Goffa Eirian Llwyd 2025
Guidelines September 2024 - Eirian Llwyd Memorial Award 2025