Gweithdy Gwehyddu efo Elin Huws (i oedolion) - WEDI GWERTHU ALLAN

Dydd Sadwrn, 3ydd Chwefror 2024 10.30yb-4yp - £60 (pris dim yn cynnwys cinio)

Creu darn o waith celf wedi ei ysbrydoli gan dirlun neu forlun o'ch dewis (dewch a ffotograff o dirlun gyda chi fel ysbrydoliaeth, ar eich ffôn neu wedi ei brintio) Yn ystod y gweithdy, bydd cyfle i greu tapestri a dysgu y dechneg o wehyddu gan ddefnyddio gwydd ar ffurf ffrâm bren a mynd a'r gwaith gorffenedig adref.

Ers graddio efo gradd mewn tapestri o Goleg Celf Caeredin, Prifysgol Caeredin yn 1999, a chwblhau gradd meistr yn yr un coleg yn 2001, mae Elin wedi arddangos yn eang yng Nghymru a thramor. Mae Elin yn byw yn Llanbedrog ac yn athrawes gelf yn Ysgol Botwnnog. Mae ei gwaith, sydd yn cynnwys tapestri, gwehyddu a lluniadau wedi ei ysbrydoli gan dirluniau, morluniau a barddoniaeth Cymru.

Archebwch Nawr

Gweithdy Gwehyddu efo Elin Huws (i oedolion) - £60