10-4yp
£75
Mae patrymau addurniadol wedi'u defnyddio dros ychydig filoedd o flynyddoedd gyda'r symbol o bŵer, defod, amddiffyniad, melltith a gweddi. Defnyddir rhai dyluniadau geometrig sylfaenol ledled y byd, ac mae'n bosibl, trwy luosi, isrannu a rhyngosod, gynhyrchu amrywiaeth ddiddiwedd o siapiau.
Yn ystod y gweithdy cewch gyfle i ddylunio eich patrwm unigryw eich hun a’i greu ar fetel.
Gemydd yw Satoko sy’n byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru ers 2016. Astudiodd waith metel yn Japan ac ar ôl dros ddegawd o brofiad dysgu yn Japan, symudodd i’r DU yn 2012 fel ymchwilydd yn Ysgol Gelf Glasgow. Ers hynny mae wedi troi ei ffocws at ei harbennigedd ei hun, gan ddatblygu ei steil ei hun o emwaith.
Mae diddordeb Satoko mewn patrymau wedi ei selio ar ddymuniad cyntefig dynol, gweddi, a dymuno fel y darluniau hynafol oedd wedi eu creu ar grwyn neu ar ochrau ogofau. Mae hi’n defnyddio patrymau blodau sy’n gweddïo am hapusrwydd rhywun, a phatrymau tonnau sy’n golygu heddwch tragwyddol yn y dyfodol.
Gweithdy Oedolion gyda Satoko Takemura - £75