Jane Fellows: Morluniau mewn Pasteli Meddal ac Inciau Acrylig

19/10/24 - 10.30am-4pm

Dysgwch sut i greu morluniau hardd, atmosfferig gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau gweadeddol.  Bydd yr artist pastel, Jane Fellows, yn eich cyflwyno i amlochredd a lliw gwych pasteli meddal.  Yn ogystal â chyngor ar gyfansoddi eich paentiad byddwch yn dysgu sut i drîn y cyfrwng mewn ffyrdd diddorol i gynhyrchu naws ac egni o fewn eich paentiad. Defnyddir cyfuniad o asio, arlliwio a marciau llinol.  Bydd myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog i gymysgu pasteli ag inciau acrylig ar gyfer gorffeniad deinamig, llawn mynegiant.  Darperir yr holl ddeunyddiau ond mae croeso i chi ddod ag unrhyw basteli sydd gennych eisoes i arbrofi gyda nhw ar y diwrnod.

£60

Gweithdy Jane Fellows