Arddangosfa Gwobr Goffa Eirian Llwyd 2025

Mae rhaglen arddangosfeydd 2025 ym Mhlas Glyn-y-Weddw wedi agor gyda arddangosfa gan gyfuniad o artistiaid argraffu sydd yn gweithio mewn amrywiol gyfryngau ac arddull. 

Arddangosfa Gwobr Goffa Eirian Llwyd ydi’r cyfle diweddaraf i weld gwaith y diweddar argraffydd Eirian Llwyd ochr yn ochr â gwaith gan rai o gyn-enillwyr y Wobr Goffa dros y 10 mlynedd diwethaf. Bydd ffocws hefyd ar waith 7 artist sydd wedi eu dewis i fod ar restr fer y wobr eleni. Pleser yw llongyfarch Flora McLachlan ar ddod i'r brig yn y gystadleuaeth a Jonah Jones am dderbyn canmoliaeth uchel am ei waith.

Roedd Eirian Llwyd, a hanai o Brion ger Dinbych, yn argraffwraig fedrus a dawnus a berffeithiodd ei chrefft o dan Tom Piper yn Ysgol Gelf enwog UWIC sydd bellach yn rhan o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. 

Yn ystod ei bywyd bu i Eirian arddangos mewn orielau ledled Cymru, ac yn dilyn ei marwolaeth cynamserol yn 2014, dangoswyd ei gweithiau yn y Senedd yng Nghaerdydd ac Oriel Môn. Roedd yn eiriolwr ymroddedig ac angerddol dros brintiau gwreiddiol fel ffurf ar gelfyddyd, a hyrwyddodd waith gwneuthurwyr printiau Cymreig yn rhyngwladol ym Mrwsel ac Amsterdam. 

Mae’r gweithiau sydd yn yr arddangosfa hon yn cynrychioli ei phrif gorff o waith, gan gynnwys rhai dyfrlliwiau cynnar, ei gwaith print yn ystod ei dyddiau fel myfyriwr a gwaith aeddfed diweddarach wrth iddi ddatblygu a pherffeithio ei chrefft.

Santes Cwyllog

Gwobr Goffa 

Yn dilyn ei marwolaeth, sefydlodd ei theulu Gronfa Goffa Eirian Llwyd er cof amdani. O dan nawdd y gronfa a weinyddir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, rhoddir dyfarniad blynyddol i argraffwyr sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru i’w alluogi ef neu hi i ddatblygu eu sgiliau. Mae darnau o waith gan artistiaid sydd ar restr fer y wobr eleni yn cael eu harddangos yn y Plas fel rhan o’r sioe hon, gan amlygu y dalent a’r amrywiaeth sydd yma yng Nghymru. Y 7 artist ar y rhestr fer eleni yw: 

Lisa Carter Grist

Jonah Evans 

Gareth Berwyn 

Eleanor Whiteman 

Zoe Lewthwaite

Flora McLachlan

Elin Crowley

Bydd rhai o enillwyr blaenorol y wobr hefyd yn arddangos: gyda’u gwaith yn cael ei arddangos ochr yn ochr a dros 40 o ddarnau gwaith Eirian Llwyd.

2016-2017 - Rhi Moxon

2018-2019 - Susan Milne

2022-2023 - Sarah Garvey

2022-2023 - Rebecca F Hardy (Canmoliaeth Uchel)

Gyda’u gwaith yn cael ei arddangos ochr yn ochr a dros 40 o ddarnau gwaith Eirian Llwyd