Gweithgareddau Print Plas

I gyd-fynd ag arddangosfa Gwobr Goffa Eirian Llwyd, byddwn yn cynnal amryw o ddigwyddiadau a sesiynau creadigol i ddathlu argraffu yma yn y Plas. Gwelwch y dyddiadau isod. Ar gael i archebu yn fuan!

Chwefror 8 - Karen Owen - Gweithdy ysgrifennu creadigol i oedolion mewn ymateb i waith celf 

Chwefror 15 - Karen Owen - Gweithdy ysgrifennu creadigol i oedolion mewn ymateb i waith celf 

Chwefror15 - Rebecca F Hardy - Sesiwn creu printiau i oedolion ifanc 14+ - print sgrîn 

Chwefror 16 - Nigel Morris - Sesiwn creu printiau i oedolion  - ysgythru sychbwynt

Chwefror 22 - Karen Owen - Gweithdy ysgrifennu creadigol i oedolion mewn ymateb i waith celf 

Chwefror 22 - Rhi Moxon - Sesiwn creu printiau i blant iau - print sgrîn a phrint mono

Chwefror 22 - Rhi Moxon - Sesiwn creu printiau i bobl ifanc yn eu harddegau - print sgrîn a phrint mono

Chwefror 27 - Casia William - Llên mewn Llun - Sesiwn ysgrifennu creadigol i blant gan ddefnyddio gwaith celf fel catalydd i syniadau am stori

Chwefror 27 - Zoe Lewthwaite - Sesiwn creu printiau i blant- Printio, Creu Marciau a Collage