Enillydd y Raffl 2024
Llongyfarchiadau calonog i Andy a Samantha am ennill ein Raffl Fawr eleni - llun bendigedig gan yr artist dawnus Elin Huws. Diolch i Elin am y llun ac i bawb a brynodd diced i gefnogi’r Plas!
Rhag18
Llongyfarchiadau calonog i Andy a Samantha am ennill ein Raffl Fawr eleni - llun bendigedig gan yr artist dawnus Elin Huws. Diolch i Elin am y llun ac i bawb a brynodd diced i gefnogi’r Plas!
Rhag2
Galwad am ddatganiadau ar gyfer comisiwn
Mae tîm Coed Coexist yn gweithio i sicrhau cyllid ar gyfer pedwar comisiwn newydd mawr i'w cyflwyno ochr yn ochr ag arddangosfa Coed Coexist rhang mis Mai a Gorffennaf 2026. Bydd pob artist neu grŵp a ddewisir yn derbyn ffi o £2000 i wireddu gwaith newydd ( ffi i dalu holl gostau artistiaid).
Dylai'r rhai sydd â diddordeb mewn gwneud cynnig wneud hynny erbyn 5pm, 28 Mawrth 2025. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â alex@oriel.org.uk
Bydd y bobl greadigol a gomisiynir yn cael eu cefnogi gan staff Plas Glyn-y-Weddw a Junko Mori a John Egan drwy gydol y prosiect. Y gobaith yw y bydd dogfennaeth barhaus o daith pob comisiwn yn cael ei chipio trwy ffilm, ffotograffiaeth a gair ysgrifenedig / llafar.
Tach20
Mae'n anrhydedd derbyn y darn arbennig yma o waith y diweddar gerflunydd John Meirion Morris sy'n dwyn y teitl 'LIeu (1982-1983)' gan ei deulu ar fenthyciad hir-dymor.
Cynhaliwyd arddangosfa adolygol sylweddol o waith yma ym Mhlas Glyn-y-Weddw yn 2008, a dyma un o'i brif weithiau/gweledigaethau mewnol.
Dewch draw ddysgu mwy am y gwaith arbennig yma!
Yn y llun mae (o'r chwith): teulu John Meirion Morris a staff Plas Glyn-y-Weddw; John Cowtan a'r Cyfarwyddwr, Gwyn Jones ar y dde.
Hyd9
Gyda thristwch mawr yr ydym yn ysgrifennu i'ch hysbysu bod Mary Yapp, cyn ymddiriedolwraig i Blas Glyn-y-Weddw a chyn berchennog Oriel Albany yng Nghaerdydd, wedi marw'n dawel ar y 10fed o Fedi 2024 yn 96 oed. Mae ei hymadawiad yn nodi diwedd cyfnod i fyd celf Cymru, lle roedd hi'n ffigwr annwyl a adnabyddid am ei hangerdd, ei hymroddiad, a'i chefnogaeth ddiwyro i artistiaid.
Cafodd cariad Mary at gelf ei danio yn ei phlentyndod gan ei thaid, casglwr brwd o gelf a hen bethau. Cafodd y dylanwad cynnar hwn ei feithrin ymhellach gan ei thad, a rannodd ei werthfawrogiad ei hun am y celfyddydau. Gyda'i gilydd, fe wnaethant archwilio orielau a siopau hen bethau, gan feithrin gwerthfawrogiad ddofn ynddi am fynegiant artistig.
Ym 1965, cychwynnodd Mary ar ei thaith broffesiynol ym myd celf, gan bartneru â'r arlunydd portreadau David Griffiths RCA MBE i agor Oriel Albany yng Nghaerdydd. Profodd y fenter hon i fod yn alwad naturiol i Mary, a phan adawodd David y busnes yn ddiweddarach i ganolbwyntio ar ei baentio, cymerodd yr awenau gyda phenderfyniad ddiflino.
O dan arweinyddiaeth Mary, ffynnodd Oriel Albany, gan ddod yn oleudy i gelf Cymru. Hyrwyddodd rai o artistiaid gorau Cymru, yn fwyaf nodedig y diweddar Syr Kyffin Williams, yr oedd hi'n gweithredu fel asiant Cymreig iddo am fynyddoedd maith. Enillodd ei llygad craff am dalent a'i hymroddiad i hyrwyddo artistiaid sefydledig a rhai sy'n dod i'r amlwg barch ac edmygedd y gymuned gelf.
Ymestynnodd cyfraniadau Mary at y celfyddydau y tu hwnt i furiau ei horiel. Roedd hi'n gefnogwr gwirioneddol anhygoeol i Blas Glyn y Weddw yn Llanbedrog oedd unwaith ym mherchnogaeth ei theulu, rhwng 1896-1945. Heb ymroddiad, gweledigaeth a chefnogaeth Mary ni fyddai Plas Glyn-y-Weddw wedi goroesi fel elusen gymunedol. Roedd hi'n cydnabod pwysigrwydd meithrin creadigrwydd a sicrhau bod celf yn parhau i fod yn hygyrch i bawb. Roedd ei chysylltiad â Plas Glyn y Weddw yn arbennig o arwyddocaol, gan ei bod hi'n rhannu eu hymrwymiad i arddangos celf Cymru mewn lleoliad unigryw a hanesyddol oedd yn agos iaw at ei chalon.
I gydnabod ei chyfraniadau i fyd celf, dyfarnwyd yr MBE i Mary yn 2017. Parhaodd i fod yn rhan weithredol o Oriel Albany tan ei hymddeoliad ym mis Tachwedd 2019 yn 91 oed, gan adael gwaddol parhaol ar ei hôl.
Mae gweledigaeth Mary - i hyrwyddo'r gorau o gelf Cymru a meithrin talent sy'n dod i'r amlwg - yn parhau i ysbrydoli. Bydd ei hangerdd, ei hymroddiad, a'i chefnogaeth ddiwyro i artistiaid yn golled fawr i bawb a'i hadnabu, yn enwedig gan y rhai yn Plas Glyn y Weddw a'r Albany, lle bydd ei heffaith i'w deimlo am genedlaethau i ddod.
Fe hoffai y Bwrdd Rheoli a holl staff a gwirfoddolwyr Plas Glyn y Weddw estyn ei cydymdeimladau dwysaf i deulu Mary.
Cynhelir Gwasanaeth Coffa i Mary Yapp, i ddathlu ei bywyd unigryw, ar dydd Mercher 16eg o Hydref yng Nghaerdydd.
Mai3
Rhag18
Llongyfarchiadau i Susan Chidley o Dudweiliog ar ennill y Raffl, sef y Belen Cregyn Llong, oedd yn rodd garedig iawn gan Matt Sanderson, dylunydd y Caffi Draenog Môr. Gweler Nia Jones yn cyflwyno y wobr iddi.
Tach20
Mae corff Gwarchod Cefn Gwlad Cymru Wledig (YDCW) wedi rhoi ail wobr i Blas Glyn y Weddw mewn 10 mlynedd. Gweler dyfyniad y wobr gan Gadeirydd YDCW Frances Lynch Llewellyn isod.
Tach20
Mae caffi newydd Plas Glyn y Weddw wedi ennill gwobr mawreddog mewn seremoni diweddar yn Llundain. Cyflwynwyd gwobr 'Little Gem' i'r caffi newydd i aelodau o'r tim dylunio mewn seremoni wobrwyo adeiladau blynyddol Ymddiriedolaeth y Comiswin Celf Gain Brenhinol.
Derbyniodd yr athrylith celfyddydol Matthew Sanderson, y perianydd Austen Cook o Fold Engineering a Seb Walker o gwmni penseiri Mark Wray y wobr gan y bardd enwog Syr Ben Okri mewn sermoni wedi ei noddi gan grwp Ballymore.
Littlegemaward.
Ebr27
Mae’r Plas yn falch iawn o dderbyn y wobr aur am brofiad ymwelwyr rhagorol ynghyd a gwobr bwyd a diod o ansawdd.
Maw31
Agorwyd y caffi newydd yn swyddogol ar y 18fed o Fawrth gan yr Arglwydd Mervyn Davies, Lady Jeanne Davies o Abersoch a Gareth Wyn Edwards, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol John Andrews
Amcan ailddatblygu’r caffi oedd gwneud i ffwrdd a’r caffi ansafonol blaenorol oedd wedi ei leoli mewn ystafell wydr yn dyddio o’r 1990au gan adeiladu caffi newydd sy’n drawiadol yn weledol ac yn amgylcheddol sensitif. Un nôd allweddol oedd darparu cegin fodern, effeithlon, sicrhau amodau gwaith gwell, creu mwy o eisteddleoedd i ymdopi a chynnydd diweddar mewn ymwelwyr, a chreu mwy o incwm. Roedd hefyd yn bwysig fod y caffi newydd yn adleisio pensaerniaeth y plasty rhestredig Gradd II* a adeiladwyd ym 1856-57 i’r Fonesig Elizabeth Love Jones-Parry fel tŷ gweddw gan y Pensaer Henry Kennedy o Fangor.
Nid yw’n syndod fod ymddiriedolwyr yr oriel hynaf yng Nghymru wedi meddwl yn greadigol am y datblygiad. Y canlyniad fu cynllun oedd yn cyfuno’r gofyniad ar gyfer caffi mwy gyda chelf sydd wedi ei selio ar y lleoliad. Wrth ddatblygu’r dyluniad, bu’r artist Matthew Sanderson yn ymchwilio i ddylanwadau mewn cymdeithas a chynseiliau pensaernïol y cyfnod adeiladwyd y plasty neo-Gothig gwreiddiol.
Roedd yn gyfnod pan swynwyd y genedl gan ddiddordeb gwyddonol, archwilio obsesiynol, a chasglu a dehongli’r celfyddydau addurnol. Cyhoeddwyd llyfr Charles Darwin, ‘On the Origin of Species’, yn 1859 tra’r oedd ei gyfoeswr Ernst Haeckel, y biolegydd morol ac artist, yn darganfod, darlunio ac enwi miloedd o rywogaethau newydd. Mae’r caffi cerfluniedig wedi ei ysbrydoli gan gynseiliau hanesyddol y safle a’r bywyd morol cyfagos. Mae bae hardd Llanbedrog sy’n wynebu’r de-ddwyrain yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig, ac yn gartref i lawer o rywogaethau, nifer yn arbennig ac yn unigryw i’r ardal.
Draenog y môr, organeb sy’n bresennol yn lleol, sy’n ysbrydoliaeth ar gyfer strwythur hunangynhaliol y caffi sydd yn mesur un ar ddeg metr o led. Y gragen allanol yw elfen fwyaf dramatig y dyluniad gyda ‘nythfa’ o 89,000 o gegyn llong wedi’u pwnio a’u gwasgu’n unigol ac wedi eu weldio i’w his- ffrâm gan wasgaru golau naturiol i leihau enillion solar mewnol. Mae eu deunydd dur di-staen gradd 316 morol wedi’i ailgylchu yn gallu gwrthsefyll hindreuliad cemegol a ffisegol sy’n bresennol yn y lleoliad arfordirol hwn.
Mae ‘ocwlws’ ganolog yn arllwys golau naturiol i’r gofod odditano ac yn agor i awyru’r caffi yn ystod tywydd cynnes. Mae’r canhwyllyr siâp twmffat lled-dryloyw yn gerflun ar wahân ond annatod, wedi ei ysbrydoli gan y sŵoplancton microsgopig; ‘Litharachnium Tentorium’. Mae 12 trawst cerfluniol sy’n dilyn troell Fibonacci gan ymledu o’r ocwlws i gwrdd â cholofnau cyfatebol sydd wedi’u cysylltu gyda bwâu pedwar pwynt sy’n adleisio arddull y tŷ Gothig. Mae pob bwa yn fframio golygfa borthol i’r golygfeydd arfordirol a’r coetir amgylchynol.
Mae’r prosiect hefyd wedi dod a gwelliannau eraill hefyd, gan gynnwys creu toiledau newydd y gellir cael mynediad iddynt o’r caffi drwy golonâd agored sy’n gwella hygyrchedd y ganolfan.
Cliciwch yma i weld ffilm o'r datblygiad
Medi26
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi fod y gwaith o ddatblygu y caffi a'r gegin newydd wedi cychwyn ac edrychwn ymlaen i'w agor ddechrau'r haf flwyddyn nesaf.
Er mwyn ein galluogi i barhau i ddarparu gwasanaeth arlwyo ar gyfer ein cwsmeriaid yn ystod y cyfnod datblygu, rydym wedi creu caffi dros dro ar lawr cyntaf yr oriel.
Rydym yn hynod o ddiolchgar i'r cyllidwyr oll am ein galluogi i wireddu ein cynlluniau. Tra'n bod wedi ffynhonnellu digon o gyllid ar gyfer y gwaith datblygu, mae'r ymgyrch codi arian yn parhau er mwyn dodrefnu y caffi.
Mae cyfle gwych i noddi y datblygiad, trwy i enw o'ch dewis gael ei ysgythru ar ddisg dur gwrthstaen fydd yn rhan o orchudd allanol y caffi. Gallwch ddewis hyd at uchafswm o 25 llythyren (isafswm o 10 llythyren), am £10 y llythyren. Galwch yn yr oriel neu cysylltwch dros y ffón neu drwy ebost os hoffech gael ffurflen i'w llenwi.
Awst16
Mae gwelliannau sylweddol wedi eu gwneud yn y Plas yn ystod gaeaf 2020-21 trwy ddatblygu toiledau newydd sbon - roedd yr hen doiledau yn fach ac wedi dyddio. Hefyd mae cyflenwad trydan newydd wedi ei roi yn ei le ynghyd a gwelliannau i'r system ddraenio.
Mae datblygiadau pellach yn digwydd dros y gaeaf yma pan adeiledir caffi a chegin newydd sbon.
Diolch i Adran Llyfrgelloedd, Archifau ac Amgueddfeydd Cymru am gyllid o Gronfa Arian Cyfalaf Trawsnewid ac hefyd i Ymddiriedolaeth John Andrews am ei gwneud yn bosibl i ni wireddu y wedd gyntaf o'r cynllun ail ddatblygu.
Ebr7
Agorwyd adnoddau amgueddfaol newydd yn y Plas gan Dafydd ap Tomos ar yr 11eg o Fehefin 2018, mae'r gwelliannau yn cynnwys dwy ystafell hanes newydd ac yn rhan o brosiect a ariannwyd gan Adain Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru.
Ymhlith y datblygiadau mae adnoddau dehongli newydd ar gyfer hanes y tŷ a’r ardal leol, gwella amodau amgylcheddol er mwyn arddangos eitemau hanesyddol, creu gwell darpariaeth ar gyfer gweithdai celf a system storio celf arbenigol newydd.
Mae’r ddwy ystafell ar lawr cyntaf yr Oriel a ddefnyddiwyd fel swyddfeydd, wedi eu trawsnewid yn ofodau amgueddfaol ar gyfer dehongli hanes y tŷ a’r ardal. O ganlyniad, mae tair ystafell ar lawr cyntaf y Plas wedi eu neilltuo ar gyfer arddangosfeydd a dehongli hanesyddol.
Mae’r ystafell a arferai fod yn brif swyddfa wedi ei throi yn ofod ar gyfer dehongli hanes cynnar y tŷ ac wedi ei henwi yn Ystafell Madryn. Prif ffocws yr ystafell hon ydi’r portread o Syr Thomas Love Duncombe Jones Parry (1830-1891), mab Lady Jones Parry a adeiladodd y tŷ. Adferwyd y llun hwn yn ddiweddar diolch i gyllid gan Gyfeillion Plas Glyn-y-weddw.
Mae cyn swyddfa arall, sydd ‘nawr wedi'i henwi yn ‘Ystafell ap Tomos’ wedi ei neilltuo ar gyfer hanes y tŷ o 1939 hyd y presennol ynghyd ag agweddau ar hanes yr ardal. Mae paneli gwybodaeth ychwanegol yn y broses o gael eu paratoi, sydd yn rhoi sylw i hanes y Plas yn ystod y cyfnod diweddar, hefyd yr ardd a’r goedwig, Mynydd Tir y Cwmwd, pentref Llanbedrog a’r herodraeth sydd yn rhan mor amlwg o bensaerniaeth mewnol y Plas.
Mae system awyru a gwydr eilaidd wedi'u gosod yn y ddwy ystafell er mwyn sicrhau fod yr amodau amgylcheddol yn cael eu cadw o fewn y paramedrau cywir wrth arddangos eitemau amgueddfaol ar fenthyg o sefydliadau eraill. Mae sgrȋn ddigidol wedi'i gosod ym mhob ystafell amgueddfaol fel y gall ymwelwyr edrych ar hen luniau wedi eu digideiddio, cyfweliadau fideo, ffilmiau a dogfennau.
Mae system golau trac sy’n pylu wedi ei osod yn yr Ystafell Madryn newydd, gan alluogi y golau i gael ei gadw o fewn y lefelau cywir ar gyfer arddangos portreadau. Mae goleuadau LED wedi'u gosod yn y cabinedau yn yr Ystafell Andrews gan drawsffurfio y casgliad arbennig yma yn weledol.
Yr ochr arall i’r grisiau ar y llawr cyntaf mae ystafell wedi'i huwchraddio er mwyn cynnal gweithdai celf i blant ac oedolion. Er mwyn hwyluso y gwelliannau hyn, mae'r swyddfeydd wedi'u hail leoli i’r adain gefn a arferai fod yn storfa ar gyfer y siop.
Mae ein storfa gelf wedi'i gwella yn sylweddol hefyd trwy osod system storio amgueddfaol ynghyd a system awyru a gwydr eilaidd er mwyn sicrhau fod yr amodau amgylcheddol yn cael eu cadw o fewn y lefelau cywir. Gall ymwelwyr edrych ar waith artistiaid yr Oriel sydd yn y storfa.
Mae’r cyllid hefyd wedi ein galluogi i uwchraddio system ddiogelwch y Plas trwy ddarparu camerau cylch cyfyng HD, a gosod system larymau o safon uchel.
Mae’r newidiadau mewnol hyn yn sicr o wella profiad ymwelwyr a chaniatau i Blas Glyn-y-weddw gynnal arddangosfeydd o waith a phwysigrwydd cenedlaethol ar fenthyg yn y dyfodol. Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y buddsoddiad hwn o £110,000 sydd wedi caniatau i ni weithredu newidiadau angenrheidiol. Gobeithiwn y rhowch amser i weld yr adnoddau newydd y tro nesaf y byddwch yn galw heibio – cofiwch ofyn i aelod o staff os dymunwch gael golwg ar y gwaith celf yn y storfa!
Ebr6
Mae bron i 200 o goed wedi eu plannu yn y goedwig ym Mhlas Glyn-y-Weddw yn ystod cyfnod cynnar y gwanwyn. Mae'r coed yn cynnwys cymysgfa o goed cynhenid megis derw, criafol, bedw a chyll. Derbyniwyd y coed trwy gynllun Coed am Ddim y Woodland Trust.
Medi13
Mae’r unig dram gwreiddiol a gariai deithwyr rhwng Pwllheli a Llanbedrog sydd wedi goroesi yn awr yn cael ei arddangos yn dilyn bod mewn storfa am flynyddoedd.