Agorwyd adnoddau amgueddfaol newydd yn y Plas gan Dafydd ap Tomos ar yr 11eg o Fehefin 2018, mae'r gwelliannau yn cynnwys dwy ystafell hanes newydd ac yn rhan o brosiect a ariannwyd gan Adain Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru.
Ymhlith y datblygiadau mae adnoddau dehongli newydd ar gyfer hanes y tŷ a’r ardal leol, gwella amodau amgylcheddol er mwyn arddangos eitemau hanesyddol, creu gwell darpariaeth ar gyfer gweithdai celf a system storio celf arbenigol newydd.
Mae’r ddwy ystafell ar lawr cyntaf yr Oriel a ddefnyddiwyd fel swyddfeydd, wedi eu trawsnewid yn ofodau amgueddfaol ar gyfer dehongli hanes y tŷ a’r ardal. O ganlyniad, mae tair ystafell ar lawr cyntaf y Plas wedi eu neilltuo ar gyfer arddangosfeydd a dehongli hanesyddol.
Mae’r ystafell a arferai fod yn brif swyddfa wedi ei throi yn ofod ar gyfer dehongli hanes cynnar y tŷ ac wedi ei henwi yn Ystafell Madryn. Prif ffocws yr ystafell hon ydi’r portread o Syr Thomas Love Duncombe Jones Parry (1830-1891), mab Lady Jones Parry a adeiladodd y tŷ. Adferwyd y llun hwn yn ddiweddar diolch i gyllid gan Gyfeillion Plas Glyn-y-weddw.
Mae cyn swyddfa arall, sydd ‘nawr wedi'i henwi yn ‘Ystafell ap Tomos’ wedi ei neilltuo ar gyfer hanes y tŷ o 1939 hyd y presennol ynghyd ag agweddau ar hanes yr ardal. Mae paneli gwybodaeth ychwanegol yn y broses o gael eu paratoi, sydd yn rhoi sylw i hanes y Plas yn ystod y cyfnod diweddar, hefyd yr ardd a’r goedwig, Mynydd Tir y Cwmwd, pentref Llanbedrog a’r herodraeth sydd yn rhan mor amlwg o bensaerniaeth mewnol y Plas.
Mae system awyru a gwydr eilaidd wedi'u gosod yn y ddwy ystafell er mwyn sicrhau fod yr amodau amgylcheddol yn cael eu cadw o fewn y paramedrau cywir wrth arddangos eitemau amgueddfaol ar fenthyg o sefydliadau eraill. Mae sgrȋn ddigidol wedi'i gosod ym mhob ystafell amgueddfaol fel y gall ymwelwyr edrych ar hen luniau wedi eu digideiddio, cyfweliadau fideo, ffilmiau a dogfennau.
Mae system golau trac sy’n pylu wedi ei osod yn yr Ystafell Madryn newydd, gan alluogi y golau i gael ei gadw o fewn y lefelau cywir ar gyfer arddangos portreadau. Mae goleuadau LED wedi'u gosod yn y cabinedau yn yr Ystafell Andrews gan drawsffurfio y casgliad arbennig yma yn weledol.
Yr ochr arall i’r grisiau ar y llawr cyntaf mae ystafell wedi'i huwchraddio er mwyn cynnal gweithdai celf i blant ac oedolion. Er mwyn hwyluso y gwelliannau hyn, mae'r swyddfeydd wedi'u hail leoli i’r adain gefn a arferai fod yn storfa ar gyfer y siop.
Mae ein storfa gelf wedi'i gwella yn sylweddol hefyd trwy osod system storio amgueddfaol ynghyd a system awyru a gwydr eilaidd er mwyn sicrhau fod yr amodau amgylcheddol yn cael eu cadw o fewn y lefelau cywir. Gall ymwelwyr edrych ar waith artistiaid yr Oriel sydd yn y storfa.
Mae’r cyllid hefyd wedi ein galluogi i uwchraddio system ddiogelwch y Plas trwy ddarparu camerau cylch cyfyng HD, a gosod system larymau o safon uchel.
Mae’r newidiadau mewnol hyn yn sicr o wella profiad ymwelwyr a chaniatau i Blas Glyn-y-weddw gynnal arddangosfeydd o waith a phwysigrwydd cenedlaethol ar fenthyg yn y dyfodol. Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y buddsoddiad hwn o £110,000 sydd wedi caniatau i ni weithredu newidiadau angenrheidiol. Gobeithiwn y rhowch amser i weld yr adnoddau newydd y tro nesaf y byddwch yn galw heibio – cofiwch ofyn i aelod o staff os dymunwch gael golwg ar y gwaith celf yn y storfa!