Mary Yapp MBE (1928-2024)

Gyda thristwch mawr yr ydym yn ysgrifennu i'ch hysbysu bod Mary Yapp, cyn ymddiriedolwraig i Blas Glyn-y-Weddw a chyn berchennog Oriel Albany yng Nghaerdydd, wedi marw'n dawel ar y 10fed o Fedi 2024 yn 96 oed. Mae ei hymadawiad yn nodi diwedd cyfnod i fyd celf Cymru, lle roedd hi'n ffigwr annwyl a adnabyddid am ei hangerdd, ei hymroddiad, a'i chefnogaeth ddiwyro i artistiaid.

Cafodd cariad Mary at gelf ei danio yn ei phlentyndod gan ei thaid, casglwr brwd o gelf a hen bethau. Cafodd y dylanwad cynnar hwn ei feithrin ymhellach gan ei thad, a rannodd ei werthfawrogiad ei hun am y celfyddydau. Gyda'i gilydd, fe wnaethant archwilio orielau a siopau hen bethau, gan feithrin gwerthfawrogiad ddofn ynddi am fynegiant artistig.

Ym 1965, cychwynnodd Mary ar ei thaith broffesiynol ym myd celf, gan bartneru â'r arlunydd portreadau David Griffiths RCA MBE i agor Oriel Albany yng Nghaerdydd. Profodd y fenter hon i fod yn alwad naturiol i Mary, a phan adawodd David y busnes yn ddiweddarach i ganolbwyntio ar ei baentio, cymerodd yr awenau gyda phenderfyniad ddiflino.

O dan arweinyddiaeth Mary, ffynnodd Oriel Albany, gan ddod yn oleudy i gelf Cymru. Hyrwyddodd rai o artistiaid gorau Cymru, yn fwyaf nodedig y diweddar Syr Kyffin Williams, yr oedd hi'n gweithredu fel asiant Cymreig iddo am fynyddoedd maith. Enillodd ei llygad craff am dalent a'i hymroddiad i hyrwyddo artistiaid sefydledig a rhai sy'n dod i'r amlwg barch ac edmygedd y gymuned gelf.

Ymestynnodd cyfraniadau Mary at y celfyddydau y tu hwnt i furiau ei horiel. Roedd hi'n gefnogwr gwirioneddol anhygoeol i Blas Glyn y Weddw yn Llanbedrog oedd unwaith ym mherchnogaeth ei theulu, rhwng 1896-1945. Heb ymroddiad, gweledigaeth a chefnogaeth Mary ni fyddai Plas Glyn-y-Weddw wedi goroesi fel elusen gymunedol.  Roedd hi'n cydnabod pwysigrwydd meithrin creadigrwydd a sicrhau bod celf yn parhau i fod yn hygyrch i bawb. Roedd ei chysylltiad â Plas Glyn y Weddw yn arbennig o arwyddocaol, gan ei bod hi'n rhannu eu hymrwymiad i arddangos celf Cymru mewn lleoliad unigryw a hanesyddol oedd yn agos iaw at ei chalon.

I gydnabod ei chyfraniadau i fyd celf, dyfarnwyd yr MBE i Mary yn 2017. Parhaodd i fod yn rhan weithredol o Oriel Albany tan ei hymddeoliad ym mis Tachwedd 2019 yn 91 oed, gan adael gwaddol parhaol ar ei hôl.

Mae gweledigaeth Mary - i hyrwyddo'r gorau o gelf Cymru a meithrin talent sy'n dod i'r amlwg - yn parhau i ysbrydoli. Bydd ei hangerdd, ei hymroddiad, a'i chefnogaeth ddiwyro i artistiaid yn golled fawr i bawb a'i hadnabu, yn enwedig gan y rhai yn Plas Glyn y Weddw a'r Albany, lle bydd ei heffaith i'w deimlo am genedlaethau i ddod.

Fe hoffai y Bwrdd Rheoli a holl staff a gwirfoddolwyr Plas Glyn y Weddw estyn ei cydymdeimladau dwysaf i deulu Mary.

Cynhelir Gwasanaeth Coffa i Mary Yapp, i ddathlu ei bywyd unigryw, ar dydd Mercher 16eg o Hydref yng Nghaerdydd.