Byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth tuag at ariannu’r gwaith o adfer y coetir yn dilyn dinistr a achoswyd gan Storm Darragh ym mis Rhagfyr 2024. Mae'r gost o glirio'r coed sydd wedi cwympo, ac adfer y llwybrau troed yn llawer uwch na'r hyn y gall yr elusen ei fforddio. O ganlyniad mae ymgyrch Go Fund Me wedi ei sefydlu i helpu gyda'r ymdrechion codi arian. Byddai unrhyw rodd yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Cliciwch yma i gyfranu

Wrth i’r gwanwyn agosau, a’r tywydd yn araf wella, mae mwy o awydd i fynd allan am dro i fwynhau yr awyr iach wrth i fyd natur ddechrau deffro wedi’r gaeaf.
Colled fawr i ni yma yn y Plas ydi’r ffaith fod llwybrau y Winllan yn parhau i fod ar gau yn dilyn y distryw a achoswyd gan storm Darragh yn ôl yn mis Rhafyr llynedd. Mae’r llwybrau yn hynod o boblogaidd ac ‘rydym yn siwr eich bod chi fel ninnau yn ysu at gael gweld y safle yn cael ei glirio a’i dacluso a’r llwybrau yn agored unwaith eto.
Fel y gallwch ddychmygu ma’n siwr, nid gwaith hawdd ydi clirio coed peryglus o lethrau’r Winllan, ac o ganlyniad mae cryn gostau i gyflawni y gwaith heb sôn am drwsio y llwybrau er mwyn eu gwneud yn ddiogel i gerddwyr. Petai yr adnoddau gennym i gyflawni y gwaith fe fyddem wedi bwrw ati gyda’r gwaith cyn gynted ag y bo modd, ond yn anffodus mae’n rhaid ffynhonellu cyllid ar gyfer ariannu’r gwaith.
O ganlyniad ‘rydym yn trefnu ymgyrch codi arian er mwyn ceisio codi y swm o tua £50,000 sydd ei angen i gyflawni’r gwaith – fe fyddem yn hynod o ddiochgar a balch o unrhyw gyfraniad tuag at y dasg anferthol hon.
Rydym eisioes wedi bod yn trafod gyda swyddogion Cyngor Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, cymdogion ac arbenigwyr ym myd coedwigaeth, a thrwy gyd-weithio gobeithiwn y gallwn gwblhau y gwaith yn effeithiol a diogel.
Yn y cyfamser mae llwybr yr arfordir wedi ei wyro dros fynydd Tir y Cwmwd dros dro, ac mae posib cerdded at y ddelw hefyd dros y mynydd. Gweler isod fap o lwybrau’r mynydd.