Adfer y Winllan

Diolch i gyllid brys trwy Bartneriaeth Natur Gwynedd rydym wedi llwyddo i glirio y mwyafrif o’r coed oedd wedi syrthio o ganlyniad i storm Darragh ddechrau mis Rhagfyr.

Mae’r contractwr coedwigaeth Gethin Hughes a’i dîm wedi bod yn brysur yn tynnu y coed trwm o’r llethrau yn ystod mis Mawrth ac mae mwyafrif ohonynt bellach wedi eu cludo o’r safle.

Yn dilyn clirio’r coed ‘roedd yn bosib asesu y difrod i’r llwybrau, ac yn anffodus mae gwreiddiau’r coed a gwympodd wedi malurio rhannau o’r llwybrau. Y cam nesaf fydd trwsio y llwybrau er mwyn eu hail agor cyn gynted a phosibl, ac ‘rydym yn falch o gyhoeddi  fod y gwaith yma eisioes wedi dechrau. Fe wnawn eich diweddaru cyn gynted ag y bydd llwybr ar agor.

Fe fydd rhaglen ail blannu coed yn dilyn hefyd – ac rydym yn dechrau cynllunio. Mwy o fanylion i ddilyn.