Cawsom agoriad gwych i arddangosfa Gwobr Goffa Eirian Llwyd 2025 ddydd Sul!
Llongyfarchiadau enfawr i'r enillydd eleni Flora McLachlan ac hefyd i Jonah Evans, a dderbyniodd Ganmoliaeth Uchel. Llongyfarchiadau hefyd i bob un o’r artistiaid ar y rhestr fer – ei chyrraedd yn gamp ynddi ei hun! Mae'n hyfryd gweld talentau mor anhygoel yn cael eu dathlu.
Bydd yr arddangosfa ymlaen, gyda gweithiau’r artistiaid ar werth, tan yr 16eg o Fawrth. Dewch heibio i gael golwg ar yr amrywiaeth o weithiau hardd gan yr enillwyr, artistiaid y rhestr fer, cyn-enillwyr a gweithiau’r diweddar Eirian Llwyd.

Jonah Evans, Canmoliaeth Uchel