Erbyn yr 1970’au gadawyd y Plas yn wag ac i ddadfeilio ond daeth tro ar fyd yn sgil gweledigaeth arbennig yr artist Gwyneth ap Tomos a’i gŵr, Dafydd. Pan prynwyd y Plas ganddynt yn 1979, ‘roedd y toeau wedi dirywio a dwr yn llifo i mewn ond ystod yr 1980’au a’r ‘90’au cynnar adnewyddwyd y tŷ ganddynt a gwireddwyd eu breuddwyd o roi llwyfan i artistiaid Cymreig pan agorwyd oriel gelf ganddynt yn y Plas yn 1984.
‘Roedd y cyfnod yma yn un holl bwysig yn hanes y Plas gan mai Gwyneth a Dafydd achubodd yr adeilad rhag mynd yn adfail ac oni bai am eu hymdrechion caled a di-flino mae’n debyg na fyddai drysau Plas Glyn-y-Weddw wedi eu hagor i’r cyhoedd eto.
Yn ystod y bymtheg mlynedd y bu Dafydd a Gwyneth yn berchnogion y Plas crëwyd llwyfan arbennig i artistiaid Cymreig a chynhaliwyd sawl arddangosfa arbennig gan artistiaid blaengar.
Ffurfiwyd Cyfeillion Oriel Plas Glyn y Weddw yn 1987 gan Gwyneth a Dafydd i hyrwyddo a chefnogi’r Oriel.
Mae dyled pawb sy'n mwynhau Plas Glyn-y-Weddw heddiw yn fawr i Dafydd a Gwyneth ap Tomos.