Yn ogystal â'r uchod, mae tîm Coed Coexist yn gweithio i sicrhau cyllid ar gyfer pedwar comisiwn newydd mawr i'w cyflwyno ochr yn ochr ag arddangosfa Coed Coexist rhang mis Mai a Gorffennaf 2026. Bydd pob artist neu grŵp a ddewisir yn derbyn ffi o £2000 i wireddu gwaith newydd ( ffi i dalu holl gostau artistiaid).
Dylai'r rhai sydd â diddordeb mewn gwneud cynnig wneud hynny erbyn 5pm, 28 Mawrth 2025. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â alex@oriel.org.uk
Bydd y bobl greadigol a gomisiynir yn cael eu cefnogi gan staff Plas Glyn-y-Weddw a Junko Mori a John Egan drwy gydol y prosiect. Y gobaith yw y bydd dogfennaeth barhaus o daith pob comisiwn yn cael ei chipio trwy ffilm, ffotograffiaeth a gair ysgrifenedig / llafar.
Photo courtesy of Jo Alexander
Mae Coed Coexist yn brosiect a gychwynnwyd gan yr artistiaid o Ben Llŷn Junko Mori a John Egan mewn partneriaeth â Phlas Glyn-y-Weddw. Mae hanfod y prosiect yn tynnu ein sylw at goed a choetiroedd, gan chwilio am gysylltiadau ehangach, dyheadau a dibyniaeth ar yr ecosystemau hyn wrth gysylltu cymuned, creadigrwydd a stiwardiaeth amgylcheddol. Mae’r prosiect yn ei gyfanrwydd yn anelu at ddathlu’r ardal leol a’r cymunedau sydd wedi’u lleoli ym Mhen Llŷn.
Gan ddefnyddio coed sydd wedi cwympo neu eu cwympo yn unig o’r penrhyn a choed Winllan ym Mhlas Glyn-y-Weddw, bydd Coed Coexist yn arddangos gwaith creadigol newydd ochr yn ochr ag ymgysylltiad cyhoeddus a chymunedol ym Mhlas Glyn-y-Weddw a’r cyffiniau. Yn dilyn y symposiwm a gynhaliwyd ym Medi 2024, mae gwahoddiad agored wedi bod i ymarferwyr creadigol sydd â chysylltiadau â Phen Llŷn ac ardal ehangach Gwynedd i wneud gwaith newydd ar gyfer arddangosfa yn 2026.
Mae’r gwahoddiad hwn wedi cynnwys casglu pren o goeden ffawydd fawr a syrthiodd mewn storm ym Mhlas Glyn-y-Weddw yn gynharach yn 2024. Mae’r goeden hon a’i phren yn ganolog i brosiect Coed Coexist yn symbolaidd ac yn gorfforol a dyhead y prosiect yw i ysbrydoli a rhoi llwyfan i grefftwaith a dyfeisgarwch pobl greadigol a meddylwyr sy'n gysylltiedig â'r ardal. Gall pawb sydd wedi mynegi diddordeb neu gymryd pren gymryd rhan yn yr arddangosfa a gynhelir rhwng Mai a Gorffennaf 2026.
© 2025 Gareth Jenkins Photography, Plas Glyn-y-Weddw. All rights reserved.
Mae’r comisiynau hyn yn gyfle i bobl greadigol a hoffai wireddu prosiect mwy uchelgeisiol, boed hynny wrth wireddu gwaith mwy / mwy cymhleth neu rywbeth sy’n cynnwys y gymuned ehangach. Mae’r gwahoddiad hwn yn ymestyn i bobl greadigol sydd â chysylltiadau â Phen Llŷn ac ardal ehangach Gwynedd, yn gweithio ar draws (ond heb fod yn gyfyngedig i); celfyddydau gweledol*, dylunio, crefft a chelfyddydau cymhwysol a chelfyddyd byw / perfformio a gall pob cynnig gael ei wneud gan un unigolyn neu gydweithrediad.
Er na fydd yr artistiaid a ddewisir o reidrwydd yn siaradwyr Cymraeg, byddant yn ennill profiad, ymwybyddiaeth a gwybodaeth o'r iaith o ganlyniad i weithio ym Mhlas Glyn-y-Weddw. Byddai artistiaid Cymraeg eu hiaith yn gallu gweithio a chyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Rydym yn annog yn gryf artistiaid sy’n cael eu tangynrychioli o fewn y celfyddydau i ymgeisio. Mae hyn yn cynnwys artistiaid ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor, artistiaid niwrowahanol, artistiaid o gefndiroedd incwm isel, artistiaid LGBTQIA+ ac artistiaid o'r Mwyafrif Byd-eang. Croesewir cynigion gan artistiaid Cymraeg eu hiaith.
*Mae hyn yn cynnwys arferion traddodiadol ond mae hefyd yn annog y rhai sy'n gweithio mewn cyfryngau llai traddodiadol neu mewn ffyrdd mwy rhyngddisgyblaethol.
Photo courtesy of Jo Alexander
Anfonwch ebost at alex@oriel.org.uk
(neu trwy’r post at; Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog, Pwllheli, Gwynedd, Gogledd Cymru, LL53 7TT)
PDF gyda'r wybodaeth ganlynol:
Delweddau
*Cysylltwch â Plas Glyn-y-Weddw post@oriel.org.uk / 01758 740 763 os hoffech gefnogaeth i gyflwyno cynnig neu os hoffech gael y wybodaeth mewn fformat arall.
Photo courtesy of Jo Alexander
Bydd panel dethol yn asesu’r holl gynigion, gan gynnwys Junko Mori a John Egan, Cyfarwyddwr, Curadur a Swyddog Ymgysylltu Plas Glyn-y-Weddw a detholwr allanol arall.
Dyddiad cau ar gyfer cynigion - 5yp, 28 Mawrth 2025
Proses ddethol a chanlyniadau penderfyniadau - Ebrill 2025
Canlyniad ariannu - Mai 2025
Cyhoeddi Comisiynau - Mai / Mehefin 2025
Comisiynau yn dechrau - Mehefin 2025
Comisiynau arddangos ac arddangos o fis Mai 2026
Os oes ganddoch gwestiynau neu angen gwybodaeth ychwanegol, e-bostiwch Alex Boyd Jones, Curadur alex@oriel.org.uk
*Sylwer mai dim ond ar lwyddiant sicrhau cyllid ychwanegol y bydd y comisiynau hyn yn mynd rhagddynt.