GALWAD AGORED DEUNYDDIAU AR GYFER CREU

Pren o Goeden Ffawydd ar gael i’w Gasglu

Yn dilyn ein symposiwm Coed Coexist a gynhaliawyd yn ddiweddar, gwahoddir ymarferwyr creadigol sydd â chysylltiadau â Phen Llŷn ac ardal ehangach Gwynedd i gasglu pren o goeden ffawydd a syrthiodd ym Mhlas Glyn-y-Weddw yn gynharach eleni a chymryd rhan yng ngham nesaf y prosiect Coed Coexist. Mae'r goeden hon a'i phren yn ganolog i brosiect Coed Coexist, yn symbolaidd ac yn ffisegol.

 

146 Coed Coexist swmposiwm symposium 2024 Plas Glyn y Weddw Ffoto Photo Gareth Jenkins Noddwyd gan Sponsored by Ecoamgueddfa Coed Coexist swmposiwm symposium 2024 Plas Glyn y Weddw Ffoto Photo Gareth Jenkins Noddwyd gan Sponsored by Ecoamgue

© 2025 Gareth Jenkins Photography, Plas Glyn-y-Weddw. Cedwir pob hawl.

 

Sut i Gymeryd Rhan

Gwahoddir ymarferwyr creadigol i weithio gyda, ac i ymateb i’r goeden ffawydd arbennig yma yn ogystal a ystyried sut y gallwn gydfyw gyda choed, coetir a fforestydd yn ehangach ac yn ddyfnach, yn enwedig o fewn y gymuned ym Mhen Llŷn.

Opsiynnau ar gyfer gweithio gyda’r pren

  1. Creu gwaith newydd ar gyfer Arddangosfa Coed Coexist (Mai 2026): Gall ymarferwyr ddatblygu gwaith maent yn ei ariannu eu hunain gan ddefnyddio’r pren hwn ar gyfer arddangosfa Mai - Gorffennaf 2026 ym Mhlas Glyn-y-Weddw (gyda chyfleoedd i werthu gwaith). Bydd manylion am gyflwyno gwaith ar gyfer yr arddangosfa hon yn cael eu rhannu yn agosach at y dyddiad.
  2. Gwaith a Gomisiynwyd: Rydym hefyd yn gweithio i sicrhau cyllid ar gyfer pedwar comisiwn mawr newydd i’w cyflwyno ochr yn ochr ag arddangosfa Coed/ Coexist Mai - Gorffennaf 2026. Gwahoddir artistiaid sydd â diddordeb mewn cynnig gweithiau / prosiectau ar raddfa fwy i gyflwyno cynnig erbyn yr 28ain o Fawrth 2025. Bydd pob artist a ddewisir yn derbyn cyllid i ddatblygu corff o waith ar gyfer yr arddangosfa. Bydd manylion llawn am y comisiynau hyn, a sut i wneud cais ar gael o ddydd Llun yr 2il o Ragfyr 2024, ar www.oriel.org.uk. Os oes ganddoch gwestiynau neu angen mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at Alex Boyd Jones, Curadur, alex@oriel.org.uk o 2 Rhagfyr. 2024.

     

Photo 03 10 2024 11 50 04

Llun gan John Egan, Making Little

 

Deunyddiau sydd ar gael (cyntaf i’r felin gaiff falu)

-Planciau: 25-75mm o drwch, hyd at 4m o hyd

-Logiau: 300mm o led, hyd at 500mm o hyd

-Brigau canopi

-Chipings coed

-Llwch lli

 

Manylion Casglu

Bydd yr alwad agored yma yn parhau hyd y bydd yr holl bren wedi ei gasglu. Er mwyn trefnu i gasglu, cysylltwch a John Egan john@makinglittle.co.uk.

 

5 B9555 C8 2 DC0 4 E99 BBC9 AB154 A8 D6 A8 D

Llun gan Jo Alexander

 

Cyfryngau Cymdeithasol a Hyrwyddo’r Prosiect

Pan fyddwch yn casglu, efallai y byddwn yn gofyn i chi dynnu llun, fideo byr, neu nodyn llais os ydych chi'n gyfforddus gyda hynny, er mwyn i chi rannu'r hyn y gallech ei archwilio'n greadigol gyda'r deunydd. Gallwch nodi eich fformat dewisol ar gyfer dogfennu.

Byddem hefyd wrth ein bodd yn derbyn delweddau a fideos o’ch taith greadigol gyda’r coed, er mwyn helpu i hyrwyddo’r prosiect, cefnogi ceisiadau am arian, a’u rhannu â’r cyhoedd yn ystod yr arddangosfa. Anfonwch luniau/fideos gyda disgrifiadau byr at Zoe Lewthwaite; zoe@oriel.org.uk.

 

Edrychwn ymlaen at weld sut mae'r deunydd unigryw yma yn eich ysbrydoli!

 

Junko Mori, John Egan a Thîm Plas Glyn-y-Weddw.

Sefydlwyr Coed / Coexist