BYWYD ARLUNYDD AC YMGYRCHYDD

Eirian sketching

 

Cafodd Eirian ei geni a’i magu yn Nyffryn Clwyd ac yno y cafodd ei chariad at natur ei feithrin gan ei theulu a oedd yn ffermio yn ardal Prion ar gyrion Dinbych. Fel plentyn yn crwydro trwy’r goedlan a adnabyddid fel Coed y Felin, rhyfeddai at y gorchudd glas o glychau’r gog, gydag ambell un gwyn yn eu plith, yn blodeuo yn y gwanwyn. Wrth gerdded y gelltydd hir o Ddinbych i Prion, byddai’n aros i syllu ar ei hoff flodeuyn, y friallen, yn y gwrychoedd ar ochr y ffordd. I Eirian, datblygodd y ddefod o syllu i fod yn gelfyddyd, lle’r oedd amser yn aros yn stond a lle nad oedd digwyddiadau arferol bywyd bob dydd, fel prydau bwyd, na gwylio’r cloc yn golygu dim. Ni chollodd erioed ei chariad at natur, a gwerthfawrogai bob ffurf ar fywyd – roedd gan y pryfetyn lleiaf a mwyaf disylw fywyd y dylid ei ddiogelu.

 

Ceffyl Gwyn

Fel merch ifanc, dechreuodd bywyd yr ymgyrchydd. Roedd ei chariad at Gymru, ei hanes, ei hiaith a’i diwylliant yn ei thanio, a hi oedd y gyntaf o’i theulu i gefnogi Plaid Cymru. Ymunodd yn fuan â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, a chwaraeodd ran yn ymgyrchoedd iaith yr 1960au a chychwyn yr 1970au a hynny’n aml ar gost bersonol iddi’i hun. Erbyn yr adeg yr oedd hi’n hyfforddi fel nyrs yn Lerpwl, byddai’n mynd i brotestiadau iaith ar ôl gweithio am oriau hir gan amddifadu’i hun o gwsg lawer gwaith a theithio pellteroedd hir. Yn ei hugeiniau hwyr, sefydlodd Grŵp Cymorth i Ferched yn y Rhyl ar ôl dychryn wrth weld cymaint o drais a oedd yn digwydd mewn cartrefi. Sefydlodd y Grŵp loches yn y dref ar adeg pan oedd yr awdurdodau’n amheus – ac yn wrthwynebus hyd yn oed – i’r syniad. Yn hwyrach yn ei bywyd, daeth yn eiriolwr brwd dros wneuthur printiadau fel ffurf o gelfyddyd, a byddai’n gwneud popeth a allai i berswadio eraill i ymuno â’i chrwsâd. Roedd ei hangerdd yn ysbrydoli, a gyda Jane a Lauren, sefydlodd y Lle Print Gwreiddiol fel menter gymdeithasol gyda’r nod o ddod â gwneuthur printiadau a gwaith gwneuthurwyr printiadau Cymreig i sylw cynulleidfa ehangach.

 

Llwybrau Enlli

 

Er gwaethaf ei holl flynyddoedd o weithio fel nyrs, mewn meddygaeth drofannol, bydwreigiaeth ac fel ymwelydd iechyd, ni chollodd Eirian erioed ei hoffter o arlunio. Astudiodd arlunio yn yr ysgol ac roedd hi’n artist dyfrliw medrus, a’i hoff wrthrychau oedd adar, anifeiliaid a blodau. Y paentiadau cynharaf sydd gennym o waith Eirian yw rhai o ddau aderyn a gwblhawyd yn 1976.  Er ei bod hi eisoes yn brysur iawn fel nyrs a mam, cwblhaodd gwrs arlunio lefel A. Ar fis o wyliau yn Ffrainc yn 1997, roedd greddf yr arlunydd ynddi’n rhy gryf i’w lesteirio, ac ymhyfrydodd mewn cyfnod hir o ymroi i’w chrefft.

 

Ffens Lechi

Pan ddychwelodd adref, roedd hi’n benderfynol o ymroi ei hun i’w gwaith arlunio, a chofrestrodd ar gwrs sylfaen yng Ngholeg Menai ym Mangor. Yno canfu diwtor ysbrydoledig yn Peter Prendergast a symbylodd y gorau ynddi fel arlunydd. Roedd gan Eirian dueddiad bob amser i danbrisio ei dawn, ond mae’n amlwg iddi gael ei hannog gan y gefnogaeth a gafodd gan y staff dysgu ym Mangor. Yn ystod ei chyfnod ym Mangor, tyfodd yn fwy hyderus yn ei gallu, a phenderfynodd ddilyn cwrs gradd yn Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd fel yr oedd bryd hynny (Prifysgol Metropolitan Caerdydd bellach). Fe wnaeth ei thair blynedd yno o dan Tom Piper newid ei hagwedd at gelfyddyd yn gyfan gwbl, ac ymroddodd ei hun i ddod yn wneuthurwr printiadau o fri. Ychydig a wyddai am y ffurf hon o gelfyddyd cyn Caerdydd, ond wedyn ymroddodd ei hun i’w amrywiol ffurfiau gydag angerdd a sêl am weddill ei hoes. Arbrofodd gyda lithograffau, ysgythriadau, torluniau pren neu dorluniau leino, a defnyddiodd yr holl ddulliau hyn, gan gynhyrchu gwaith mewn stiwdio yng nghanolfan Hawardian yng Nghaerdydd, yng ngweithdy printiadau Caerdydd ac yn yr ychydig flynyddoedd olaf yn ei stiwdio ei hun yn ei chartref ym Môn.

 

Eglwys ym Mon

 

Roedd llawer o ddylanwadau ar ei gwaith, ond y dylanwad pennaf oedd hanes diwylliannol cyfoethog Môn a’r amgylchedd naturiol, a dyma a ddaeth yn sail i’w phrintiadau. Roedd hi wrth ei bodd gyda siâp y meini hirion ar yr ynys, y nodau ar y cromlechi Neolithig, y siapiau a gerfiwyd i feini eglwysi a’r ffordd y mae siâp y coed ar yr ynys wedi ei ffurfio gan y gwyntoedd cryfion o’r gorllewin. Roedd ei chwilfrydedd yn cael ei danio gan y brain, yr adar mwyaf deallus, a oedd â’r gallu yn ôl llên gwerin Cymru i gyfleu negeseuon rhwng y presennol a’r byd a ddaw. Roedd hi wrth eu bodd gyda’u campau acrobataidd, ac wrth gerdded uwchben yr Ysgolion Duon yn y Carneddau un tro, safodd yn stond wedi ymgolli’n llwyr wrth i’r brain blymio i’r ceudwll odditani.

 

Yr Hen Dduwiau lliw

Câi ei hysbrydoli hefyd gan waith beirdd Cymru a cheisiodd ddod â’r delweddau a grewyd ganddynt yn fyw yn ei harlunio. Roedd gweithiau Gwyn Thomas, Iwan Llwyd ac R S Thomas yn rhoi cyfleoedd iddi gynhyrchu printiau ac maent yn yr arddangosfa. Mwy o syndod efallai oedd iddi ddarganfod Johnny Cash yn hwyr yn ei hoes, ac roedd hi wedi torri’n chalon pan ddeallodd ei fod wedi marw ychydig fisoedd ynghynt. Cafodd ei rhyfeddu gan hanes ei fywyd, holl droeon ei yrfa, a’i gyfnodau o lawenydd ac o anobaith llwyr. Cafodd ei hysbrydoli hefyd gan ei allu i gyfleu llawer am y ffordd y bu fyw a’i argyhoeddiadau crefyddol cryf trwy ei lais grymus. Fe wnaeth amryw o brintiadau a oedd yn seiliedig ar ei stori.

Llanfechell

Roedd gan Eirian ffydd grefyddol gref ac fe wnaeth hynny ei chynnal a’i chysuro yn ei salwch olaf byr. Y ffydd hon oedd yr hyn a’i harweiniodd i nyrsio, a’i hargyhoeddiad fod Duw wedi bwriadu iddi ddilyn galwedigaeth o ofalu am bobl. Ar un adeg, aeth cyn belled ag ystyried gweithio dramor mewn gwledydd tlawd a chyntefig, a dyna pam y dilynodd gwrs mewn meddygaeth drofannol. Mae ei gwaith arlunio yn fynegiant pellach o’i ffydd, ac mae llawer o eglwysi a chelf eglwysi i’w gweld yn ei gwaith. Mae’n addas fod ei gwaith olaf wedi ei gysegru i’r santes Cwyllog, santes Geltaidd o’r chweched ganrif. Cafodd y gwaith ei gomisiynu gan Peter Freeman ar gyfer llyfr a gyhoeddir yn Unol Daleithiau America yn dwyn y teitl ‘The Age of Saints’.

 

From the Minister RS Thomas

 

Yn dilyn marwolaeth annhymig Eirian ym mis Ionawr 2014, mae ei theulu, yn unol â’i dymuniad, wedi sefydlu Cronfa Goffa yn ei henw. Drwy’r Gronfa hon  bydd gwobr flynyddol yn cael ei dyfarnu i wneuthurwr printiadau sy’n byw a gweithio yng Nghymru i’w alluogi ef neu hi i ddatblygu sgiliau gwneuthur printiadau.