Bydd rhaglen arddangosfeydd 2025 ym Mhlas Glyn-y-Weddw yn agor dydd Sul nesa (02/02/2025) gyda arddangosfa gan gyfuniad o artistiaid argraffu sydd yn gweithio mewn amrywiol gyfryngau ac arddull.
Arddangosfa Gwobr Goffa Eirian Llwyd ydi’r cyfle diweddaraf i weld gwaith y diweddar argraffydd Eirian Llwyd ochr yn ochr â gwaith gan rai o gyn-enillwyr y Wobr Goffa dros y 10 mlynedd diwethaf. Bydd ffocws hefyd ar waith 7 artist sydd wedi eu dewis i fod ar restr fer y wobr eleni, cyn i’r enillydd gael ei gyhoeddi yn swyddogol yn ystod yr agoriad brynhawn dydd Sul.
Roedd Eirian Llwyd, a hanai o Brion ger Dinbych, yn argraffwraig fedrus a dawnus a berffeithiodd ei chrefft o dan Tom Piper yn Ysgol Gelf enwog UWIC sydd bellach yn rhan o Brifysgol Metropolitan Caerdydd.
Yn ystod ei bywyd bu i Eirian arddangos mewn orielau ledled Cymru, ac yn dilyn ei marwolaeth cynamserol yn 2014, dangoswyd ei gweithiau yn y Senedd yng Nghaerdydd ac Oriel Môn. Roedd yn eiriolwr ymroddedig ac angerddol dros brintiau gwreiddiol fel ffurf ar gelfyddyd, a hyrwyddodd waith gwneuthurwyr printiau Cymreig yn rhyngwladol ym Mrwsel ac Amsterdam.
Mae’r gweithiau sydd yn yr arddangosfa hon yn cynrychioli ei phrif gorff o waith, gan gynnwys rhai dyfrlliwiau cynnar, ei gwaith print yn ystod ei dyddiau fel myfyriwr a gwaith aeddfed diweddarach wrth iddi ddatblygu a pherffeithio ei chrefft.
Yn dilyn ei marwolaeth, sefydlodd ei theulu Gronfa Goffa Eirian Llwyd er cof amdani. O dan nawdd y gronfa a weinyddir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, rhoddir dyfarniad blynyddol i argraffwyr sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru i’w alluogi ef neu hi i ddatblygu eu sgiliau.
Mae darnau o waith gan artistiaid sydd ar restr fer y wobr eleni yn cael eu harddangos yn y Plas fel rhan o’r sioe hon, gan amlygu y dalent a’r amrywiaeth sydd yma yng Nghymru. Y 7 artist ar y rhestr fer eleni yw: Gareth Berwyn, Elin Crowley, Jonah Evans, Lisa Carter Grist, Zoe Lewthwaite, Flora McLachlan, a Eleanor Whiteman.
Bydd rhai o enillwyr blaenorol y wobr hefyd yn arddangos: Sarah Garvey, Rebecca F. Hardy, Susan Milne, Rhi Moxon, gyda’u gwaith yn cael ei arddangos ochr yn ochr a dros 40 o ddarnau gwaith Eirian Llwyd.
Bydd yr arddangosgfeydd yn agor am 2yp dydd Sul yr 2il o Chwefror 2025, gyda darlleniad gan y bardd Karen Owen, geiriau gan un o’r detholwyr Rhian Harris a chyhoeddiad o’r enillydd gan Ieuan Wyn Jones.
Cerddoriaeth byw gan Edwin Humphreys a Mandy Morfudd i ddilyn.
Mae Print Plas yn cynnwys rhaglen o ddigwyddiadau creadigol yn dathlu argraffu i gydfynd a’r arddnagosfa.
Mi fydd yr arddangosfa yn parhau hyd at 16 o Fawrth 2025.