Mae edrych ar ôl y goedwig a’r ardd yn dasg heriol ond yn un sydd yn rhoi boddhâd, ‘rydym bob amser yn edrych am wirfoddolwyr newydd i helpu.
Mae’r gwaith gwirfoddol yn cynnwys chwynu y gerddi a’u cadw yn daclus, chwynu o amgylch y planhigion sy’n amgylchynu y theatr awyr agored a’r maes parcio, plannu coed cynhenid yn y goedwig a thorri rhedyn a drain sydd yn tyfu i’r llwybrau.
Mae cyflawni y tasgau yma yn hanfodol ar gyfer cynnal a chadw Plas Glyn-y-Weddw a sicrhau ei fod yn atyniad o safon i’w ddefnyddwyr.
Mae mewnbwn gan wirfoddolwyr wedi bod yn allweddol i lwyddiant prosiect y Winllan – bu tîm yn brysur yn helpu i adfer y llwybrau er mwyn eu hail agor rhwng 2009 a 2013.
Os oes ganddoch ddiddordeb ymuno â’r tîm a chyfrannu ychydig o amser nawr ag yn y man i helpu, cliciwch yma am fwy o wybodaeth.