Roedd y goedwig yn bodoli cyn adeiladu y Plas ac mae iddi statws Coedlan Hynafol, dynodiad sy’n cael ei roi i goedlanau sydd yn hŷn na 400 mlwydd oed.
Pan brynodd Solomon Andrews y Plas a’r gerddi yn 1896, ‘roedd ymwelwyr yn cael cerdded o amgylch yr ardd a’r goedwig, ac ‘roeddynt yn cael eu marchnata fel ‘gerddi pleser’.
Wedi i’r Plas gael ei adeiladu, bu i ran helaeth o’r Winllan gael ei hail blannu gyda choed llarwydd gan gymeryd lle y coed cynhenid gwreiddiol oedd, mae’n debyg, yn cynnwys rhywogaethau megis onnen a derw ymysg eraill. Datblygwyd y rhwydwaith o lwybrau hefyd yn ystod y cyfnod yma gan gysylltu gyda llwybrau eraill oedd yn arwain trwy’r gerddi a’r parc oedd yn bodoli rhwng y terasau a’r traeth.
Pan brynodd Solomon Andrews y Plas a’r gerddi yn 1896, ‘roedd ymwelwyr yn cael cerdded o amgylch yr ardd a’r goedwig, ac ‘roeddynt yn cael eu marchnata fel ‘gerddi pleser’.
Bu’r goedwig ar gau i’r cyhoedd rhwng 1939, pan gӓewyd yr oriel ar ddechrau yr Ail Ryfel Byd a parhaodd i fod mewn perchnogaeth breifat hyd 2008 pan brynodd Cwmni Plas Glyn-y-Weddw Cyf y safle sy’n mesur 14eg o aceri gan deulu Macmaster.
Galluogwyd y pryniant trwy grant o Gronfa Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn a Chyfeillion Plas Glyn-y-Weddw.
‘Roedd tasg anferthol o’n blaen – yn ystod y 70 o flynyddoedd y bu y goedwig ar gau i’r cyhoedd ‘roedd y llawryf a’r rhododendron oedd wedi eu plannu ar lawr y goedwig yn ystod oes Fictoria wedi tyfu allan o reolaeth. ‘Roedd rhaid clirio y tyfiant dwys yma er mwyn ail ddarganfod y llwybrau, galluogwyd y gwaith yma trwy gyllid gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ynghyd a chytundeb chwistrellu chwyn laddwyr yn flynyddol.
Yn 2011 datblygwyd maes parcio mewn rhan o’r goedwig i wasanaethu y Plas a’r Winllan. Y flwyddyn ganlynol, adeiladwyd theatre awyr agored yn y goedwig, mae hi wedi ei henwi yn ‘Theatr John Andrews’ i gydnabod cefnogaeth y diweddar John Andrews i Blas Glyn-y-Weddw dros nifer o flynyddoedd.