Isod mae pytiau o wybodaeth am waith a digwyddiadau sydd wedi cymeryd lle yn y goedwig yn ystod y blynyddoedd diweddar.
Mae bron i 200 o goed wedi eu plannu yn y goedwig ym Mhlas Glyn-y-Weddw yn ystod cyfnod cynnar y gwanwyn. Mae'r coed yn cynnwys cymysgfa o goed cynhenid megis derw, criafol, bedw a chyll. Derbyniwyd y coed trwy gynllun Coed am Ddim yr elusen Coed Cadw
Mae'r hydrangeas a blanwyd yn 2012 ar gyrion y maes parcio yn eu blodau yn ystod misoedd yr haf, ac yn olygfa gwerth ei gweld wrth gyrraedd Plas Glyn y Weddw.
Yn ystod 2015 mae'r llwybr canol, sydd yn cael ei adnabod fel 'Llwybr Solomon' wedi ei ail wynebu a rhan o wal derfyn y goedwig wedi ei thrwsio. O ganlyniad i'r gwaith diweddar, mae holl lwybrau y goedwig wedi eu hadfer ac yn drywydd ar gyfer teithiau hamddenol a diddorol mewn amgylchedd hudolus. Mae'r gwaith wedi ei ariannu gan Gronfa Natur Llywodraeth Cymru sydd yn canolbwyntio ar warchod bioamrywiaeth a dod a buddion i gymunedau.
Mae blodau'r gwanwyn yn eu holl ogoniant ym Mhlas Glyn y Weddw yr adeg yma o'r flwyddyn, gan roi amrywiaeth o liw i'r gerddi a'r goedwig.
Yn flodau gwyllt, rhododendron a phlanhigion sydd wedi eu plannu o amgylch yr amffitheatr ynghyd a chlychau'r gȏg yn ymledu yn flynyddol, mae yn olygfa werth ei gweld. Mae suran y coed hefyd yn ychwanegu at y cyfoeth o dyfiant ar lawr y goedwig.
Mae'r aselias a blanwyd ddiwedd 2012 yn ffynnu ac mae'r gludlys coch a heuwyd yn 2013 yn rhoi lliw i'r ddȏl uwchlaw'r theatr awyr agored.
Yn ystod yr haf cwblhawyd y gwaith o atgyweirio yr unig lwybr oedd yn parhau i fod ar gau yn y Winllan. O ganlyniad mae'r rhwydwaith cyfan o lwybrau ar agor i'r cyhoedd eu cerdded am y tro cyntaf ers bron i 70 o flynyddoedd.
Mae adfer y Winllan wedi bod yn gryn sialens, ond erbyn hyn llwyddwyd i glirio'r tyfiant dwys o rododendron a llawryf oedd wedi gorchuddio llawr y goedwig.
Mae'r llwybr a agorwyd yn ddiweddar wedi ei enwi ganddom yn 'Llwybr Solomon' - i gofio Solomon Andrews, a brynodd y Plas yn 1896, gan sefydlu oriel gelf gyhoeddus yma am y tro cyntaf.
Carwn ddiolch yn fawr iawn i'r gwirfoddolwyr ac i bawb sydd wedi helpu gyda'r gwaith o adfer y llwybrau.
Agorwyd y llwybr gan y Cynghorydd Sir lleol, Angela Russell yn mis Hydref.
Mae'r dasg o drwsio y llwybr canol wedi dechrau y mis yma. Bydd y llwybr yma yn cael ei adnbod fel 'Llwybr Solomon'.
Er gwaethaf y gwanwyn oer, mae'r planhigion a blanwyd yn y Winllan ddiwedd 2012 yn ffynnu gan ddod a lliw i'r llethrau o amgylch y theatr awyr agored. I ychwanegu at y lliw mae clychau'r gog yn blodeuo yn garped glas ar lawr y goedwig sy'n brawf bod tyfiant naturiol yn dychwelyd i'r goedlan yn dilyn torri'r tyfiant ymledol.
Mae dwy fainc newydd wedi eu gosod yn y Winllan yn ystod mis Mai, wedi eu gwneud o goed derw a llarwydd oedd yn tyfu yn y Winllan.