Yng nghanol yr 1990’au sefydlwyd ymddiriedolaeth elusennol annibynnol gan Gyfeillion yr Oriel er mwyn prynu’r Plas. Fe’i prynwyd gyda chymorthdal gan y Loteri Genedlaethol. Yr Ymddiriedolaeth Elusennol honno sy’n rhedeg y Plas heddiw.
Dros y chwarter canrif diwethaf o dan arweinyddiaeth y cyn gyfarwyddwr David Jeffreys a'r cyfarwyddwr presennol, Gwyn Jones, mae gweledigaeth a gwaith caled Gwyneth a Dafydd wedi ei ddatblygu ymhellach. Heddiw, mae Plas Glyn-y-Weddw yn llawer mwy na oriel gelf; mae'n ganolfan gelf a threftadaeth o bwysigrwydd cenedlaethol, yn cyfuno celf, natur a diwylliant trwy ystod eang o weithgareddau.
Yn 2008, prynwyd y Winllan, sef y goedlan sydd gerllaw’r Plas ac a oedd yn rhan o’r gerddi gwreiddiol. Ail agorwyd y llwybrau sydd yn arwain trwy’r Winllan. Daeth y prif lwybr yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru. Datblygwyd maes parcio ac adeiladwyd theatr awyr agored newydd, sydd wedi ei henwi er cof am y diweddar John Andrews, a oedd yn gefnogwr brwd i’r Plas.
O ganlyniad i ddatblygiad y Winllan daeth yn amlwg yn fuan iawn i'r Ymddiriedolwyr nad oedd cyfleustra arlwyo a gwasanaethau eraill bellach yn ddigonol i ymateb i'r cynnydd mewn ymwelwyr i'r safle. O ganlyniad, rhwng 2019 a 2022 buddsoddwyd bron i £1.5m mewn prosiect i sefydlu caffi cerfluniol newydd a chyflesterau gwasanaeth modern ar y safle.
Erbyn heddiw, mae dros 140,000 o bobl yn ymweld â'r Plas yn flynyddol ac mae'n atyniad poblogaidd i bobl leol ynghyd ag ymwelwyr o bob rhan o'r byd. Yn 2023, daeth y newyddion calonogol fod Cyngor Celfyddydau Cymru, yn dilyn adolygiad buddsoddi newydd, wedi cydnabod gwelliannau y Plas trwy ei wneud yn glient refeniw am y tro cyntaf. Bydd y gefnogaeth hon yn galluogi'r elusen i fuddsoddi mewn artistiaid i'r dyfoldol. Yn ogystal, mae y Plas hefyd wedi ei chynnwys, fel un o'r 9 safle lloeren i brosiect Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol newydd i Gymru, fydd yn galluogi'r trysorau celf cenedlaethol gael eu harddangos led led y wlad mewn orielau safonnol a diogel.