Coedwig sydd yn rhan o erddi gwreiddiol y Plas ydi’r Winllan ac mae’n cynnwys rhwydwaith o lwybrau troed hynod o boblogaidd ymysg cerddwyr trwy gydol y flwyddyn.
Mae’r rhan o lwybr yr arfordir sy’n cysylltu traeth Llanbedrog gyda rhostir mynydd Tir y Cwmwd yn arwain trwy’r Winllan. Mae’r daith ar hyd y traeth tywodlyd cyn ymgolli yn nwyster y goedwig ac yna cyrraedd ehangder y rhostir uwchlaw gyda’i olygfeydd godidog yn un fythgofiadwy.
Cliciwch ar y dolennau uchod i gael g wybod mwy am y modd y cafodd y llwybrau eu hail ddarganfod yn 2009 ar ôl bod ynghudd am ddegawdau ynghanol tyfiant dwys o lawryf a rhododendron.