Dafydd ap: Straeon y Mabinogi

Ymunwch a'r bardd a’r rapiwr, Dafydd ap, wrth iddo geisio ffeindio’i ffordd o Aberystwyth i Went i gyfarfod ei noddwr hael, Ifor.

Ar hyd y ffordd, mae’n cael ei rwystro gan Wylan, gan y Gwynt, a chan Bioden. Maent yn rhannu rhai o straeon y Mabinogion ymhlith ei gilydd, a daw’r plant i ddysgu am stori Pwyll a Rhiannon, Branwen, a Blodeuwedd. Sioe liwgar ddychmygus, rhyngweithiol ag adloniadol.

Perfformiad yn Gymraeg am 1.30yp. Digwyddiad am ddim - rhaid archebu lle isod.

LLAWN

Dafydd ap: Straeon y Mabinogi