Llywelyn, Tywysog Olaf Cymru?

Llywelyn ap Gruffudd, Ŵyr Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd, Arglwydd Eryri, Tywysog Cymru Bur, Llywelyn eich Llyw Olaf a gafodd ei dwyllo a’i lofruddio ar yr 11eg o Ragfyr, yn yr oerfel ar Bont Orewin ger Llanfair ym Muallt yn y flwyddyn 1282. Cafodd ei ladd dan orchymyn Brenin Lloegr, Edward y Cyntaf. Ond doedd ei ladd yn unig ddim yn ddigon... torrwyd ei ben i ffwrdd.

Ers colli ei ben, dros saith can mlynedd yn ôl, mae Llywelyn braidd yn bôrd heb yr holl wleidydda a'r brwydro, felly mae'n mynd ati i arlunio, gan adrodd ei stori, a stori Tywysogaeth Cymru, drwy rannu ei ddarluniau gwych (yn ôl Llywelyn!).

Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.

Cefnogir gan gynllun Noson Allan, Cyngor Celfyddydau Cymru.

Perfformiad yn Gymraeg am 1.30yp. Digwyddiad am ddim - rhaid archebu lle isod.

Archebwch le

Llywelyn, Tywysog Olaf Cymru?